Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 27 Medi 2021 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.15 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2021(2) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nodwyd cofnodion cyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf.
2 Cyllideb y Comisiwn 2022-23
Trafododd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, a adlewyrchodd y strategaeth y cytunwyd arni yng nghyfarfod y Comisiwn ar 12 Gorffennaf.
Fe wnaethant ystyried blaenoriaethau o ran prosiectau ar gyfer 2022-23 a'u dull o fynd i’r afael â’r pwysau ychwanegol tebygol ar Gyllideb Ddrafft 2022-23, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Cytunodd y Comisiynwyr i osod cyllideb ddrafft y Comisiwn o £62.942 miliwn, gan nodi y gallai cyhoeddiadau cyllideb y DU alw am ystyriaethau diweddarach ynghylch cyllideb atodol.
At hynny, nododd y Comisiwn ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid, a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
3 Adroddiad Dyfodol Ystwyth
Rhoddodd y Comisiynwyr sylwadau cadarnhaol ar y gwaith a wnaed i gasglu’r gwersi a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol o brofiad y pandemig fel y gellid ystyried y gwerth strategol hirdymor o gael y Senedd a’r Comisiwn yn sefydliad mwy hyblyg, ymatebol a chynaliadwy.
Cadarnhawyd bod cynnwys y papur yn cofnodi’r profiad a’i fod yn sail dda ar gyfer cyfeiriad strategol dyheadau’r Comisiwn ar gyfer y dyfodol.
Awgrymodd y Comisiynwyr y dylid trafod ymhellach yr hyn a fyddai’n cael ei ystyried fel mesur llwyddiant.
Nododd y Comisiynwyr y byddai'n ddefnyddiol i'r Aelodau weld crynodeb, ac y byddai'n creu sail ar gyfer trafodaeth ddefnyddiol gyda nhw am eu hanghenion wrth i'r anghenion hynny, i gyflawni eu dyletswyddau yn y Chweched Senedd, ddod yn fwy amlwg dros y cyfnod sydd i ddod.
4 Diweddariad ynghylch COVID-19
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth am y diweddariad diweddaraf i’r rheoliadau COVID-19. Fe wnaethant drafod y wybodaeth sydd ar gael am y niferoedd sy’n defnyddio profion llif unffordd ar gyfer dod i’r safle.
Trafododd y Comisiynwyr y bwriad i atgyfnerthu negeseuon am y mesurau sydd ar waith i gadw'r ystâd yn ddiogel ac i leihau'r effeithiau ar barhad busnes.
Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a rhoddodd sylwadau ar bwysigrwydd pobl yn gwybod am rif adnabod y Senedd ar gyfer adrodd canlyniadau profion llif unffordd, a bod angen cydnabod lle mae’r feirws yn parhau i effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.
5 Diweddariad ynghylch yr agoriad swyddogol
Rhoddwyd amlinelliad i'r Comisiynwyr o'r cynlluniau ar gyfer yr Agoriad Swyddogol, a fyddai’n cael ei gynnal ar Ystâd y Senedd ym mis Hydref.
Fe wnaethant nodi trefn y rhaglen a chytunwyd ar ddull o ymdrin ag agweddau ar liniaru risg, yn ymwneud â'r sefyllfa COVID barhaus, yn benodol o ran defnyddio profion llif unffordd a masgiau wyneb, heblaw am y rhai y mae angen iddynt siarad fel rhan o'r agoriad.
6 Rhwydwaith Gwresogi Ardal
Trafododd y Comisiynwyr Gynllun Gwresogi Ardal Caerdydd, yr oedd gan y Comisiwn y dewis i ymuno ag ef fel y prif “gleient allweddol”.
Byddai’r cynllun yn cefnogi cyflenwi Strategaeth Carbon Niwtral y Comisiwn. Trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud ag anghenion yr ystâd, ffynhonnell yr ynni a pherfformiad thermol y Senedd a Thŷ Hywel.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai’r Comisiwn yn ymuno â Chynllun Gwresogi Ardal Caerdydd, ar yr amod bod y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cytuno ar unrhyw newidiadau terfynol i ddrafftio’r contract arfaethedig.
7 Rôl y Prif Gynghorydd Cyfreithiol
Nododd y Comisiynwyr wybodaeth a ddarparwyd am y camau nesaf yn y cynllun i recriwtio aelod rhan-amser parhaol o staff y Comisiwn fel Prif Gynghorydd Cyfreithiol.
Gwnaed hyn yn unol â’r ddirprwyaeth i’r Prif Weithredwr a’r Clerc.
Nododd y Comisiynwyr y bwriad i barhau at y broses recriwtio a chytunodd i gefnogi estyniad tymor byr pellach i'r trefniadau dros dro presennol am hyd at dri mis (os oes angen).
8 Papurau i'w nodi:
8.a Ymateb i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - gwariant gyda chyflenwyr o Gymru
Nododd y Comisiwn wybodaeth sy’n cael ei darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn ymateb i gais bod y Comisiwn yn ysgrifennu, erbyn mis Medi 2021, i nodi pa ymgysylltiad y mae wedi'i wneud â chyrff cyhoeddus eraill, a'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd i wella gwariant gyda chyflenwyr o Gymru o ganlyniad.
8.b Llythyr y Pwyllgor Deisebau - alcohol ar yr ystâd
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Ni wnaeth y Comisiynwyr geisio gwneud unrhyw newidiadau i’r sefyllfa bresennol, sydd wedi’i chynnwys yn y Polisi ar gyfer defnyddio’r Ystâd, sef na chaiff ein trwyddedeion werthu na gweini alcohol i’w yfed ar ystâd y Cynulliad cyn 6pm yn ystod yr wythnos yn ystod y tymor.
8.c Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio a ddarparwyd.
8.d Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (Mehefin)
Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor.
9 Unrhyw fater arall
Caplaniaeth – trafododd y Comisiynwyr nodyn a ddaeth i law gan gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd. Roedd Aelodau'r Comisiwn yn cydymdeimlo â'r pwynt a wnaed, ond roeddent yn ymwybodol o faterion ymarferol ac nid oeddent yn dymuno symud i drefniant ffurfiol heb ymgynghori'n fwy cynhwysfawr â'r Aelodau.
Diogelu – cytunodd y Comisiynwyr i gael gwybodaeth sy’n rhoi amlinelliad o’r ystyriaethau.
Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh – nododd y Llywydd ei bod wedi ysgrifennu at Aelodau am y paramedrau ynghylch y system a'i bod yn bwriadu trafod hyn gyda'r grwpiau.